Alex Salmond
Mae Alex Salmond wedi mynnu bod ei gynlluniau ar gyfer pleidlais am annibyniaeth yn yr Hydref 2014 yn gyfreithiol – er gwaetha’r ffaith bod San Steffan yn dweud nad oes gan Lywodraeth yr Alban yr hawl i gynnal refferendwm o’r fath.

Neithiwr fe gyhoeddodd Prif Weinidog yr Alban y dyddiad mae nhw’n bwriadu cynnal y bleidlais i benderfynu a ddylai’r Alban aros yn rhan o’r DU.

Daeth y cyhoeddiad awr yn unig ar ôl i Ysgrifennydd yr Alban Michael Moore gynnig ymestyn pwerau cyfreithiol Holyrood er mwyn caniatáu refferendwm ar annibyniaeth – petai nhw’n cwrdd ag amodau arbennig.

Mae Alex Salmond wedi cyhuddo Llywodraeth San Steffan o geisio ymyrryd ac wedi dweud y dylai’r Prif Weinidog “gadw allan” o’r mater.

Dywedodd bod na feirniadaeth hallt wedi bod yn yr Alban ynglŷn â’r agwedd “Thatcheraidd” mai “Downing Street sy’n gwybod orau,” gan ychwanegu na fyddai’r Alban yn derbyn amodau “afresymol” San Steffan ynglŷn â sut y dylen nhw gynnal y refferendwm.

Fe wrthododd Michael Moore heddiw i ddweud a fyddai Llywodraeth San Steffan yn cyflwyno her gyfreithiol yn erbyn refferendwm yr Alban ond dywedodd bod cynlluniau’r SNP yn “peri’r risg o gael eu herio’n gyfreithiol rywbryd yn ystod y broses.”