Syr Richard Branson
Mae Syr Richard Branson wedi addo gwella bancio i gwsmeriaid ym Mhrydain, wrth iddo ymweld â changen newydd o Virgin Money yn Newcastle.

Mae cwmni Syr Richard Branson wedi prynu Northern Rock, gafodd ei wladoli yn 2008, mewn cytundeb gwerth £747 miliwn.

Roedd Syr Richard yn ymweld â un o changhennau’r banc yn Stryd Northumberland yn y ddinas.

Mae disgwyl i 75 cangen Northern Rock gael eu hail-frandio yn ystod y naw mis nesaf.

Dywedodd Syr Richard Branson: “Mae Grŵp Virgin bob amser yn mynd mewn i farchnadoedd lle mae na gyfle i wneud pethau’n well i gwsmeriaid… Rŵan, rydan ni eisiau gwneud yr un peth i fancio.”

Ychwanegodd bod na lawer o waith caled o’u blaenau ond bod ganddyn nhw y bobl iawn a’r cynlluniau mewn lle.

Fe fydd Syr Richard Branson yn treulio’r deuddydd nesaf yn cwrdd â staff ac yn ymweld â’r canghennau yn y Gogledd Ddwyrain cyn ymweld â swyddfeydd Virgin Money yng Nghaeredin, Norwich a Llundain.

Mae Virgin Money yn bwriadu herio’r pum prif fanc yn y diwydiant gan ddweud y bydd eu cynigion cynilo ar gyfer cwsmeriaid yn “syml, yn deg ac yn dryloyw.”

Cafodd Northern Rock ei wladoli yn 2008 yn dilyn yr argyfwng ariannol yn 2007.