Alex Salmond
Mae David Cameron wedi dweud bod y refferendwm arfaethedig ar annibyniaeth i’r Alban yn gwneud niwed i economi’r wlad.

Dywedodd bod y diffyg manylion ynglŷn â dyddiad y refferendwm a’r cwestiwn wedi creu ansicrwydd ym myd busnes.

Ychwanegodd hefyd y byddai yn rhaid cael caniatâd Llywodraeth San Steffan cyn bod yr Alban yn cael cynnal refferendwm ar y mater.

Dywedodd ei fod yn bwriadu cyhoeddi cyngor cyfreithiol fyddai yn dangos hynny ac yn rhoi “sicrwydd” i bobol yr Alban.

Mynnodd ar yr un pryd ei fod yn benderfynol y bydd y bleidlais yn cael ei gynnal “cyn gynted a bo modd”.

Cyhuddodd Prif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, o geisio atal y bleidlais am ei fod yn gwybod nad oedd pobol yr Alban “yn eu calonnau” eisiau annibyniaeth.

Mae Alex Salmond wedi dweud ei fod yn bwriadu cynnal y refferendwm yn ail hanner tymor y senedd bresennol, sy’n dod i ben yn 2015.

‘Trist’

“Mae pobol yr Alban yn haeddu rhywbeth sy’n deg, cyfreithiol a therfynol ac felly dros y dyddiau nesaf fe fyddwn ni’n cyhoeddi yn glir beth yw’r sefyllfa gyfreithiol,” meddai David Cameron.

“Yna mae angen cynnal dadl agored a rhoi cyfle i bawb dweud eu barn.

“Mae’r ansicrwydd yn gwneud niwed i’r Alban ac yn gwneud niwed i economi’r Alban.

“Ac mae’n annheg ar bobol yr Alban eu hunain, sydd ddim yn gwybod beth fydd y cwestiwn, pryd fydd y cwestiwn yn cael ei ofyn, na chwaith pwy fydd yn ei ofyn.”

Ychwanegodd mai’r Deyrnas Unedig oedd “un o’r partneriaethau mwyaf llwyddiannus yn hanes y byd”.

“Fe fyddai yn ofnadwy o drist petai’r Alban yn penderfynu gadael y Deyrnas Unedig,” meddai.

“Aros yn y Deyrnas Unedig fyddai orau i’n heconomïau ni i gyd, gan gynnwys yr Alban.

“Rydw i’n credu fod Alex Salmond yn gwybod yn iawn nad ydi pobol yr Alban eisiau annibyniaeth ac felly mae’n ceisio creu sefyllfa lle mae o’n digwydd.”

Ymateb yr SNP

Dywedodd un o Aelodau Seneddol yr SNP, Pete Wishart, ei fod yn credu y byddai ymyrraeth David Cameron yn arwain at gynnydd mewn cefnogaeth at annibyniaeth.

“Dydd Sul arall a rhagor o straeon am San Steffan yn ceisio ymyrryd yn y refferendwm. Bydd yn siŵr o arwain at gynnydd yn y pleidleisiau ‘Ie’,” meddai.