Mae Llywodraeth yn bwriadu newid y broses ar gyfer pobol sy’n ystyried mabwysiadu plentyn oherwydd pryderon fod y sustem ar hyn o bryd yn rhy araf deg, a bod gormod o fiwrocratiaeth.

Ar hyn o bryd gall gymryd mwy na blwyddyn i ymgeiswyr gael eu cymeradwyo, gan adael miloedd o blant mewn gofal yn aros am fisoedd neu flynyddoedd am deulu i’w mabwysiadu.

Mae’r Gweinidog Plant Tim Loughton wedi galw ar grŵp o arbenigwyr i gyflwyno system newydd i asesu unigolion sy’n dymuno mabwysiadu.