Piers Morgan
Mae’n “annhebygol iawn” nad oedd Piers Morgan yn gwybod am hacio ffonau symudol pan oedd yn olygydd y Daily Mirror, clywodd Ymchwiliad Leveson heddiw.

Dywedodd James Hipwell, cyn-ohebydd ariannol y papur, wrth yr ymchwiliad i safonau o fewn y wasg “nad oedd yna ryw lawer nad oedd yn gwybod amdano”.

Wrth roi tystiolaeth ddoe dywedodd Piers Morgan nad oedd yn ymwybodol o unrhyw hacio ffonau symudol yn y Daily Mirror.

Doedd ganddo “ddim rheswm” dros gredu fod hacio yn mynd rhagddo, meddai.

Ond dywedodd James Hipwell, a garcharwyd am brynu stociau isel eu pris cyn eu hargymell i’w ddarllenwyr, nad oedd yn cydweld â thystiolaeth Piers Morgan.

“O ystyried ei steil wrth olygu, fe fyddwn i’n dweud ei fod yn annhebygol iawn nad oedd yn gwybod beth oedd yn digwydd oherwydd, fel yr ydw i wedi dweud, does yna ddim ryw lawer nad oedd yn ei wybod,” meddai.

“Rydw i’n credu ei fod wedi dweud wrth roi tystiolaeth ei fod yn cymryd diddordeb mawr yng ngwaith ei newyddiadurwyr.”