Mae dyn wedi boddi ar ôl disgyn drwy rew wrth geisio achub ei gi.

Roedd John McAllister, 37, wedi ceisio achub y ci o lyn Gadloch, Dwyrain Swydd Dunbarton, tua 5pm ddoe.

Daethpwyd o hyd i’w gorff tua dwy awr yn ddiweddarach, ar ôl i ddiffoddwyr tân archwilio’r llyn gan ddefnyddio camerâu delweddu thermal.

“Mae’r teulu wedi byw yn yr ardal erioed,” meddai un cymydog wrth bapur newydd y Sun.

“Mae’n beth ofnadwy i ddigwydd ar drothwy’r Nadolig.

“Roedd pawb wedi gweddio ei fod yn fyw, ond cadarnhawyd ein pryderon.”

Rhybuddiodd y gwasanaethau brys y dylai perchnogion cŵn eu cadw ar dennyn a gochel rhag llynnoedd sydd wedi rhewi.

Ychwanegwyd fod y ci hefyd wedi marw.