Aidan Burley (O'i wefan)
Mae Aelod Seneddol Ceidwadol wedi cael y sac o swydd yn y Llywodraeth ar ôl cymryd rhan mewn parti Naziaidd.

Mae’r Prif Weinidog, David Cameron, hefyd wedi gofyn am ymchwiliad pellach i weithgareddau Aidan Burley, AS Cannock Chase, a oedd yn gynhorthwy-ydd seneddol i’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Justine Greening.

Fe ddatgelodd papur newydd y Mail on Sunday’r wythnos ddiwetha’ ei fod wedi cymryd rhan mewn parti stag mewn canolfan sgïo yn Ffrainc lle’r oedd pobol wedi gwisgo fel Naziaid ac wedi yfed llwnc destun i lywodraeth Adolf Hitler.

Er ei fod wedi “ymddiheuro’n ddiamod” ac yn dweud y dylai fod wedi gadael y parti, mae’r papur heddiw’n awgrymu ei fod wedi helpu i hurio peth o’r dillad Naziaidd.

Beirniadu David Cameron

Fe gafodd y Prif Weinidog ei feirniadu am beidio â gweithredu ynghynt – yn ôl y llefarydd Llafur ar Drafnidiaeth, John Woodcock, roedd wedi ceisio osgoi cael sylw gwael i’w blaid.

Ac mae Ysgrifennydd Cyffredinol undeb trafnidiaeth yr RMT, Bob Crow, wedi galw ar i Aidan Burley gael ei daflu o’r blaid Geidwadol.

“Nid mater o ddiffyg barn yw trin y Naziaid fel math o jôc wael, mae’n golygu nad yw’n ffit i ddal swydd gyhoeddus ac fe ddylai Cameron fod yn ddigon dewr i’w gicio mas o’r blaid,” meddai.