Nick Clegg
Fe fydd y Dirprwy Brif Weinidog yn ymosod eto ar ei bartneriaid Ceidwadol yn y Llywodraeth wrth iddo geisio rhoi bwlch melyn rhwng y ddwy blaid.

Fe fydd Nick Clegg yn defnyddio araith i’r corff syniadau Demos er mwyn ymosod ar rai o safbwyntiau cymdeithasol y Torïaid.

Fe fydd hynny’n cynnwys beirniadaeth o addewid prif blaid y Llywodraeth i gynnig manteision treth i gyplau priod.

Yn ôl Nick Clegg, fe fyddai hynny’n mynd yn ôl i’r 1950au – er bod teuluoedd yn bwysig, meddai, dyw hi ddim yn iawn defnyddio’r system drethi i ffafrio un patrwm yn fwy na’r lleill.

Roedd yr addewid i roi mantais dreth o £150 i gyplau priod yn rhan o addewidion etholiad y Ceidwadwyr gyda chefnogaeth bersonol gan y Prif Weinidog, David Cameron.

Ond, er bod yr addewid yn rhaglen y glymblaid, fe fydd gan y Democratiaid Rhyddfrydol hawl i ymatal mewn pleidlais.

Meddai Clegg

Mae rhannau o araith y Dirprwy Brif Weinidog wedi eu gollwng ymlaen llaw.

“Ddylen ni ddim cymryd un fersiwn penodol o sefydliad y teulu – fel model yr 1950au o dad mewn siwt yn ennill cyflog a’r fam yn ei ffedog yn gofalu am y cartref – a’i gadw mewn aspic,” meddai Nick Clegg.

“Y peryg yn y Deyrnas Unedig yw fod grymoedd adwaith a gwrthgilio’n goresgyn ein greddf i fod yn agored a gobeithiol. Ein bod yn ildio i ofn – gelyn mwyaf bod yn agored – yn yr amseroedd economaidd tywyll hyn.”

Mae un o gyrff syniadau’r asgell dde eisoes wedi taro’n ôl – yn ôl y Ganolfan tros Gyfiawnder Cymdeithasol, mae priodi’n bwysig o ran sefydlogrwydd teuluoedd