Llongau pysgota yn yr Alban
Bydd cwota pysgotwyr Prydain yn cynyddu y flwyddyn nesaf ond rhaid i’r llongau dreulio llai o ddyddiau ar y môr yn dilyn penderfyniad gan yr UE ym Mrwsel.

Mae Gweinidog Pysgodfeydd Llywodraeth San Steffan, Richard Benyon yn dweud ei fod yn tu hwnt o falch efo’r penderfyniad ar ôl dros 17 awr o drafodaeth flynyddol ar y Polisi Pysgodfeydd Cyffredinol.

“Rydyn ni wedi llwyddo i gytuno ar gwotas fydd nid yn unig yn caniatau i bysgotwyr lleol wneud bywoliaeth ond hefyd yn sicrhau ein bod yn gwarchod yr amgylchedd,” meddai.

Mae Llywodraeth yr Alban beth bynnag yn anhapus iawn efo’r penderfyniad i gwtogi nifer y dyddiau y caiff y llongau fynd i’r môr.

“Mae hon yn ergyd galed iawn i’n pysgotwyr sydd o hyn allan yn mynd i gael trafferth cynnal ei hunain yn economaidd yn wyneb y torriadau cwbl di-angen yma,” meddai Bertie Armstrong, Prif Weithredwr Ffederasiwn Pysgotwyr yr Alban.

Siomedig hefyd oedd y mudiad cadwraeth Oceana Europe sy’n honni bod y gwleidyddion wedi anwybyddu tystiolaeth wyddonol ynglyn â’r lleihad yn nifer y pysgod oherwydd gor-bysgota.

Dywedodd cyfarwyddwr y mudiad Xavier Pastor “Yn anffodus, bydd yr agwedd tymor byr yma yn arwain at leihad pellach yn nifer y pysgod a hefyd yn elw’r sector a’r cymunedau pysgota hyfyw.”