Mae teuluoedd sydd â phlant yn cael cynnig morgeisi llai na chyplau sydd heb, wrth i fanciau newid y ffordd y maen nhw’n bethyg arian.

Daw’r newid wrth i fanciau ddechrau asesu gwariant teuluoedd yn ogsytal a’u hincwm cyn penderfynu faint i i’w fenthyg iddyn nhw.

Mae’r banciau wedi dechrau ystyried oes gan gyplau blant, a hyd yn oed faint maen nhw’n ei wario ar ofal a ffioedd ysgol bob mis, cyn penderfynu faint o arian i’w roi iddyn nhw.

Mae nifer o fenthycwyr yn rhoi rhwng 10% a 20% yn llai i deuluoedd sydd â phlant nag y bydden nhw yn ei roi i gyplau di-blant.

Byddai cwpwl heb blant oedd yn ennill £24,000 yr un yn gallu benthyg £207,000 o Nationwide.

Ond oes oes gyda nhw ddau o blant fe fyddai’r cyfanswm yn disgyn i £174,200.

“Mae teuluoedd sydd â phlant yn gwario mwy na theuluoedd sydd heb,” meddai Nationwide.

“Rydyn ni’n fenthyciwr pwyllog a chyfrifol, ac mae’n gwneud synnwyr ein bod ni’n adlewyrchu amgylchiadau’r benthyciwr wrth gynnig morgais.”

‘Effaith sylweddol’

Mae pryder na fydd teuluoedd yn gallu fforddio prynu tŷ mwy, neu hyd yn oed adnewyddu morgais ar y tŷ sydd ganddyn nhw, o ganlyniad i’r profion newydd.

“Mae rhai pobol wedi eu heffeithio yn sylweddol gan y newidiadau,” meddai Ray Boulger, pennaeth morgeisi ymgynghorwyr John Charcol.

“Mae yna resymeg y tu ôl i’r peth. Yn amlwg os oes gennych chi dri neu bedwar o blant mae eich costau byw yn mynd i fod yn uwch.”