Mae cwmni Syr Richard Branson, Virgin Money, i brynu banc Northern Rock mewn cytundeb gwerth £747miliwn, mae’r Trysorlys wedi cyhoeddi heddiw.

Cafodd y banc ei brynu gan y Llywodraeth ym mis Chwefror 2008 ar ôl mynd i drafferthion. Mae disgwyl i  Virgin Money gymryd drosodd erbyn diwedd y flwyddyn.

Mae disgwyl i’r Llywodraeth dderbyn £747 miliwn gyda’r potensial o sicrhau cyfanswm o £1biliwn – llai na’r £1.4biliwn yr amcangyfrifir mae’r Llywodraeth wedi ei wario ar y banc.

Roedd Virgin Money wedi methu yn ei ymdrech i brynu Northern Rock ar ôl iddo fethu yn 2007.

Fe fydd pencadlys y busnes yn Newcastle ac mae Virgin Money wedi rhoi addewis na fydd rhagor o ddiswyddiadau am o leiaf tair blynedd ar wahân i’r rhai sy wedi eu cyhoeddi’n barod.

Dywedodd y Canghellor George Osborne y byddai’n cynnig  “presenoldeb newydd a phwerus ar y stryd fawr.”