Ed Miliband
Fe fydd Ed Miliband heddiw yn galw am “gyfalafiaeth mwy cyfrifol” wrth i bryderon gynyddu am ddirwasgiad arall.

Ddoe, roedd ffigurau yn dangos bod nifer y bobl ifainc di-waith wedi cynyddu i fwy na miliwn.

Fe fydd arweinydd y Blaid Lafur yn galw eto ar y Llywodraeth i “newid cwrs” ar ei pholisiau economaidd pan fydd yn annerch sefydliad y Social Market Foundation (SMF) heddiw.

Mae disgwyl iddo ddweud: “Peidiwch â chredu’r rhai hynny sy’n dweud y bydd newid cwrs yn ein gwneud ni fel gwlad Groeg.”