Cadeirlan Sant Paul
Mae brotestwyr gwrth-gyfalafiaeth sy’n gwersylla tu allan i Gadeirlan Sant Paul wedi cael gorchymyn swyddogol i adael y safle gan Gorfforaeth Dinas Llundain.

Mae’r gorfforaeth wedi gofyn i’r protestwyr symud eu pebyll o gwmpas y gadeirlan erbyn 6pm yfory.

Dywedodd y gorfforaeth y byddai’n dechrau cymryd camau cyfreithiol yn yr Uchel Lys petae’r protestwyr yn gwrthod symud cyn hynny.

Mae’r protestwyr wedi dweud eu bod nhw’n barod i herio’r gorfforaeth ac apelio yn erbyn gorchymyn i’w symud o’r safle.

Fe benderfynodd y gorfforaeth  gymryd camau cyfreithiol ar ôl pythefnos o drafodaethau gyda’r protestwyr.

Roedd y gorfforaeth wedi dweud yn wreiddiol y gallai’r protestwyr aros tan y flwyddyn newydd.

Ond yn ôl cadeirydd polisi Corfforaeth Dinas Llundain, Stuart Fraser roedd y protestwyr wedi gwrthod eu cynnig i adael iddyn nhw aros tan y flwyddyn newydd a doedd dim dewis ganddyn nhw ond cymryd camau cyfreithiol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gadeirlan eu bod nhw’n cydnabod hawl yr awdurdod lleol i gymryd camau cyfreithiol gan ychwanegu eu bod nhw wedi ceisio dod i gytundeb heddychlon ynglyn â’r mater. Dywedodd y byddai cyfarfodydd rhwng staff y Gadeirlan a chynrychiolwyr y protestwyr yn parhau.