Mae Nwy Prydain wedi dweud heddiw bod cynlluniau i dorri tua 850 o swyddi ar ôl adolygu adnoddau yn eu gwasanaethau busnes.

Fe fydd y toriadau yn effeithio swyddi rheoli a chefnogi, meddai’r cwmni.

Fe ddywedodd y cwmni mewn datganiad fod “cwsmeriaid yn chwilio am werth am arian” ac os yw’r cwmni am barhau’n “gystadleuol gan gynnig y prisiau gorau i gwsmeriaid” bod rhaid iddyn nhw leihau eu costau.

Fe ddywedodd y cwmni y bydden nhw’n sicrhau “lefelau uchel o wasanaeth i’w cwsmeriaid” cyn egluro y bydden nhw’n mynd i mewn i gyfnod ymgynghoriad i drafod y cynigion mewn rhagor o fanylder gyda’u gweithwyr a’u cynrychiolwyr.

“Mae’n fater anodd a sensitif, ac fe fyddan ni’n gweithio i roi cefnogaeth i bawb sy’n cael eu heffeithio, ac i sicrhau proses deg, agored a thryloyw drwyddi draw” meddai llefarydd ar ran y cwmni.

Dywedodd y llefarydd wrth Golwg 360 nad oedd y cwmni’n gallu ymhelaethu ar faint o swyddi fydd yn cael eu colli nac ymhle gan fod yr ymghyngoriad newydd ddechrau.