Fe fydd dyn yn mynd o flaen llys heddiw ar gyhuddiad o geisio cipio ac ymosod yn rhywiol ar ôl i fachgen 10 oed ddiflannu ar ôl mynd i siopa yn Oldbury.

Mae Michael Jackson, 49, o Oldbury yng Nghanolbarth Lloegr,  wedi ei gyhuddo o gipio ac ymosod yn rhywiol ar y plentyn ddydd Sul.

Roedd yr heddlu wedi lansio ymchwiliad ar ôl i aelod o deulu’r bachgen eu ffonio i ddweud bod nad oedd wedi dychwelyd adre.