Stephen Lawrence
Mae achos yr erlyniad yn erbyn dau ddyn sydd wedi eu cyhuddo o lofruddio’r myfyriwr croenddu Stephen Lawrence wedi dechrau yn yr Old Bailey heddiw.

Cafodd Stephen Lawrence ei drwyannu i farwolaeth wrth ymyl arhosfan bysys yn Eltham, de ddwyrain Llundain ym mis Ebrill 1993.

Mae Gary Dobson, 36, a David Norris, 35, y ddau o dde Llundain, yn gwadu ei lofruddio.

Roedd rhieni Stephen Lawrence,  Doreen a Neville, yn y llys wrth i’r rheithgor dyngu llw. Dim ond un o’r rheithwyr sy’n groenddu.

Wrth i’r achos ddechrau, fe benderfynodd Neville Lawrence adael y llys.

Clywodd y llys heddiw bod Stephen Lawrence wedi ei drywannu i farwolaeth ar ôl i griw o lanciau croenwyn ymosod arno. Roedd wedi gwaedu i farwolaeth ar ôl cael ei drywannu ddwywaith.

Roedd Stephen Lawrence wedi cael ei erlid gan y criw  oedd wedi ei amgylchynu ger yr arhosfan bws.

Dywedodd Mark Ellison QC ar ran yr erlyniad bod un o’r grŵp wedi cael ei glywed yn dweud: “What, what n*****?”

Fe lwyddodd ffrind Stephen Lawrence, Duwayne Brooks i redeg i ffwrdd gan apelio ar Stephen i wneud yr un peth. Ond ni lwyddodd Stephen i ddianc a chafodd ei amgylchynu gan y criw.

Ar ôl cael ei drywannu fe lwyddodd Stephen Lawrence i redeg rhyw 220 lladd at ei ffrind Duwayne Brooks, cyn syrthio ar y pafin.

Roedd Duwayne Brooks wedi ffonio 999 o flwch ffôn cyn ceisio cael help gan bobol yn cerdded heibio. Cafodd Stephen Lawrence ei gludo i’r ysbyty ond bu farw’n ddiweddarach.

Dywedodd Mark Ellison QC nad oedd yr un o’r llygad-dystion y noson honno wedi llwyddo i adnabod yr ymosodwyr. Dywedodd bod achos yr erlyniad yn dibynnu ar dystiolaeth wyddonol newydd oedd wedi dod i law ar ôl adolygiad o’r achos yn 2007. Roedd gwaed, ffibrau a gwallt wedi ei ddarganfod ar ddillad y diffynyddion fel rhan o’r ymchwiliad gwreiddiol yn 1993, meddai.

Fe fydd yr erlyniad yn dadlau bod y dystiolaeth wyddonol yn awgrymu bod y diffynyddion yn rhan o’r grŵp a ymosododd ar Stephen Lawrence.

Dywedodd Mark Ellison QC mai yr unig reswm posib am yr ymosodiad oedd “lliw ei groen”.