Fe ddisgynodd graddfa chwyddiant  i 5.0% ym mis Hydref, yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw.

Cafodd y cynydd diweddar mewn costau byw ei leddfu ychydig yn ystod y mis diwethaf, ond dal i godi y mae biliau ynni a thanwydd, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae’r ffigyrau yn dangos mymryn o gwymp ers mis Medi, pan roedd chwyddiant yn 5.2%, sef y lefel uchaf ers tair blynedd – ond mae’r ffigwr yn dal i fod mwy na dwywaith y targed o 2% sydd wedi ei osod gan y Llywodraeth.

Mae sawl un yn amau os yw’r ffigyrau yn adlewyrchu’r sefyllfa go iawn, gan fod archfarchnadoedd wedi gostwng prisiau bwyd rhwng Medi a Hydref eleni – y cwymp mwyaf yn yr un cyfnod ers 1996, yn ôl y Swyddfa Ystadegau.

Ond fe arweiniodd y cynydd sylweddol ym mhris trydan gan un o gyflenwyr mwyaf Prydain, npower, at ragor o bwysau ar gyllid cartrefi sydd eisoes yn ceisio ymdopi â’r diffyg cynydd mewn cyflogau.

Ond ni ddylai’r ystadegau chwyddiant heddiw fod yn syndod i Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr, oedd wedi rhagweld y byddai chwyddiant yn pasio 5% tua’r adeg yma.

Y cyfnod nesaf fydd y prawf mawr iddyn nhw nawr, gan fod y Pwyllgor hefyd wedi darogan y byddai cyfraddau chwyddiant yn dechrau disgyn yn sylweddol dros y flwyddyn nesaf.

Mae disgwyl i’r Banc dorri eu rhagolygon ar gyfer tyfiant yr economi a chwyddiant yn eu hadroddiad yfory – wrth i fesuryddion yr economi ragweld bod tyfiant a chwyddiant yn mynd i ddisgyn yn sylweddol yn y 12 mis nesaf.