Freddie Starr
Mae’r comediwr Freddie Starr wedi cael ei gludo i’r ysbyty ac yn cael profion ar ôl iddo gymryd rhan mewn her “bushtucker trial” yn y rhaglen I’m A Celebrity… Get Me Out of Here!

Bu’n rhaid i Freddie Starr adael y gwersyll yn y jyngl er mwyn cael archwiliad meddygol ond mae’n debyg ei fod “mewn hwyliau da”.

Roedd Freddie Starr, 68, yn hwyr yn cyrraedd y jyngl ar ôl problem gyda gwaith papur oherwydd ei fod wedi cael trawiad ar y galon.

Mae’n debyg ei fod wedi mynd yn sâl rhyw ddwy awr ar ôl cymryd rhan yn yr her  “greasy spoon” lle roedd wedi gorfod bwyta nifer o bryfed.

Fe fydd yn aros yn yr ysbyty dros nos tra bod profion yn cael eu cwblhau.