Mae dau o blant sy’n dioddef o fotwliaeth yn gwella yn yr ysbyty yn yr Alban, yn ôl swyddogion iechyd heddiw.

Cafodd y ddau eu cludo i’r ysbyty ddydd Sul ar ôl mynd yn  sâl ar ôl bwyta saws Korma Loyd Grossman.

Dywedodd llefarydd ar ran y GIG bod y ddau blentyn o’r un teulu mewn cyflwr “sefydlog ac yn gwella”.

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynghori’r cyhoedd i beidio â bwyta jariau o’r saws gan fod na risg  y gallen nhw achosi gwenwyn botwliaeth. Dywedodd yr asiantaeth bod jariau o’r saws yn cael eu tynnu oddiar silffoedd mewn siopau.

Yn ôl yr asiantaeth dim ond un jar o’r saws sydd wedi ei heintio gyda’r bacteria sy’n achosi botwliaeth. Mae gan y jariau ddyddiad ‘defnyddio erbyn’ Chwefror 2012 a’r côd 1218R 07:21.

Mae’r Asiantaeth Diogelu Iechyd wedi hysbysu gweithwyr iechyd ar draws y DU ac wedi eu cynghori i fod yn wyliadwrus o  bobol sy’n dangos symptomau.

Mae boltwliaeth yn effeithio’r system nerfol ac mae’r symptomau fel arfer yn ymddangos rhwng 12 a 36 awr ar ôl bwyta bwyd wedi ei heintio.