Bydd yr ymchwiliad cyhoeddus i arferion a moesau newyddiadurol ym Mhyrdain yn sgil yr helynt hacio ffonau yn dechrau’r wythnos hon.

Bydd yr Arglwydd Ustus Leveson yn lansio cyfres o wrandawiadau ar gyfer rhan cyntaf ei ymchwiliad, a fydd yn edrych ar ddiwylliant, arferion a moesau’r wasg yn gyffredinol.

Bydd cwnsel yr ymchwiliad, Robert Jay QC, yn dechrau’r sesiwn heddiw gyda datganiad yn esbonio sut y cafodd yr ymcwhiliad ei sefydlu gan y Prif Weinidog, David Cameron, ym mis Gorffennaf, wedi iddi ddod i’r amlwg fod ditectif cudd oedd yn gweithio i’r News of the World wedi hacio ffôn Milly Dowler, y ferch ysgol a gafodd ei llofruddio yn 2002.

Mae disgwyl i’r bargyfreithiwr hefyd fanylu ar gylch gorchwyl yr ymchwiliad, a sut y bydd yr ymchwiliad yn ceisio osgoi rhagfarnu’r ymchwiliad gan yr heddlu i’r digwyddiadau.

Bydd datganiad Robert Jay QC yn cael ei ddilyn gan ddatganiadau gan gyfreithwyr “cyfrannwyr craidd” yr ymcwhiliad.

Mae dros 50 o gyfranwyr craidd yn yr ymchwiliad, gan gynnwys grwpiau papur newydd a phobol sydd wedi cwyno am ymyrraeth yr wasg ar eu bywydau – gan gynnwys rhieni Milly Dowler, rhieni Madeleine McCann, Hugh Grant, a JK Rowling.

Bydd y tystion cyntaf o blith rhain yn cael eu galw’r wythnos nesaf.

Tra fod y gwrandawiadau’n cael eu cynnal yn y Llysoedd Cyfiawnder Brenhinol yng nghanol Llundain, fe fydd modd gwylio’r sesiynau holi ar fideo byw ar wefan yr ymchwiliad: www.levesoninquiry.org.uk

Mae’r ymchwiliad eisoes wedi cynnal cyfres o seminarau cychwynnol gyda chyflwyniadau gan siaradwyr fel golygydd yr Associated Press, Paul Darce.

Bydd ail ran yr ymcwhiliad yn edrych ar raddfa’r gwaith anghyfreithlon gan newyddiadurwyr, yn dechrau ar ôl i’r heddlu orffen eu gwaith ymchwil a phan fydd yr erlyniadau wedi dod i ben.

Mae’r Arglwydd Ustus Leveson, sy’n farnwr Llys Apêl, eisoes wedi ymweld yn bersonol â’r Daily Mail, y Daily Mirror a’r Daily Echo yn Southampton er mwyn dysgu mwy am sut mae papurau newydd yn gweithio – er ei fod wedi denu cryn feirniadaeth am fethu â phenodi’r un cynrychiolydd o fyd y tabloids i eistedd ar y panel o chwech arbenigwr fydd yn ei helpu.

Ei ymgynghorwyr fydd cyn-gadeirydd y Financial Times, Syr David Bell, cyfarwyddwraig Liberty, Shami Chakrabati, cyn-gadeirydd Ofcom, yr Arglwydd Currie, cyn-olygydd glweidyddol Channel 4, Elinor Goodman, cyn-olygydd gwleidyddol y Daily Telegraph, George Jones, a cyn-bennaeth Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, Syr Paul Scott-Lee.