Mae’r farchnad waith yn wynebu gwasgfa “araf a phoenus”, gyda chwmniau yn torri’n ôl ar nifer y staff sy’n cael eu recriwtio yn sgil y sefyllfa economaidd, yn ôl adroddiad newydd heddiw.

Mae’r Sefyliad Siarteredig Personel a Datblygu yn rhagweld y bydd  nifer y bobol sydd mewn swyddi yn gostwngdros weddill y flwyddyn, tra bod rhagolygon yn y tymor hirach ddim gwell chwaith.

Mae llai o gwmniau nawr yn bwriadu anfon gweithwyr dramor, na recriwtio gweithwyr o dramor, ac mae disgwyl i’r sector breifat dyfu yn llawer arafach dros y tri mis nesaf.

Yn ôl yr adroddiad, mae disgwyl i’r hyder yn y sector gyhoeddus aros yn isel yn ystod y misoedd nesaf, cyn disgyn ymhellach yn y flwyddyn nesaf.

Daw’r casgliadau wedi i’r sefydliad gynnal arolwg o 1,000 o gyflogwyr.

Cwmniau’n aros i weld…

Yn ôl Gerwyn Davies, ymgynghorydd polisi cyhoeddus y Sefydliad, mae’r “ffigyrau yn cyfeirio at wasgfa araf a phoenus yn y farchnad swyddi.

“Mae nifer o gwmniau fel petae nhw wedi eu caethiwo wrth orfod aros i weld sut mae pethau’n troi allan, gyda rhai cwmniau eraill yn torri’n ôl ar bob penderfyniad i gyflogi staff yn sgil ansicrwydd cynyddol yr argyfwng yng ngwledydd yr Ewro a’r economi ehangach,” meddai.

Ond yn ôl Gerwyn Davies mae’r amharodrwydd i greu newidadau yn golygu bod “llai o gwmniau ar hyn o bryd yn ystyried symud eu swyddfeydd dramor neu wneud diswyddiadau.

“Yr ochr anffodus i hyn yw fod y bwriad i recriwtio yn disgyn, ac mae hyn yn golygu y bydd cynydd pellach mewn diweithdra yn anochel gan fod diswyddiadau yn y sector cyhoeddus yn digwydd yn gynt na’r nifer a gafodd eu rhagweld gan y Swyddfa â Chyfrifoldeb Cyllidol.

“Does dim arwydd ar hyn o bryd bod y farchnad waith yn y Deyrnas Unedig yn mynd i wella yn y tymor byr, na’r tymor canolig,” meddai.

Daw’r adroddiad ddeuddydd yn unig cyn cyhoeddi’r ffigyrau diweithdra diweddaraf ddydd Mercher, a fydd yn dangos a yw nifer yr ifanc, di-waith wedi croesi’r miliwn.