David Cameron
Mae David Cameron wedi cefnogi’r Ysgrifennydd Cartref Theresa May gan ddweud wrth Aelodau Seneddol bod ei phenderfyniad i lacio trefniadau archwilio pasborts yn “un roedd hi’n iawn i’w gymryd.”

Roedd David Cameron yn mynnu nad oedd y cynllun wedi peryglu diogelwch a’i fod yn cefnogi ei phenderfyniad i wahardd pennaeth yr Asiantaeth Ffiniau o’i waith ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y rheolau wedi cael eu llacio ymhellach heb awdurdod Theresa May.

Ond dywedodd arweinydd y Blaid Lafur bod y peth yn “ffiasgo” wrth i Ed Miliband a David Cameron fynd ben ben â’u gilydd yn ystod sesiwn gwestiynau’r Prif Weinidog.

Roedd Ed Miliband wedi cyhuddo David Cameron o arwain Llywodraeth “anniben”.

Yn y cyfamser mae pennaeth yr Asiantaeth Ffiniau wedi ymddiswyddo gan gyhuddo Theresa May o gamarwain y Senedd.

Mae Brodie Clark yn gwadu iddo lacio’r rheolau ymhellach heb ganiatâd.