Theresa May
Mae’r Ysgrifennydd Cartref yn dod dan fwy a mwy o bwysau i ymddiswyddo ar ôl i bennaeth yr Asiantaeth Ffiniau ei chyhuddo o “gamarwain” y Senedd.

Mae Brodie Clark wedi ymddiswyddo gan ddweud fod Theresa May wedi rhoi’r bai yn annheg arno ef am lacio rhai rheolau mewnfudo.

Mewn datganiad trwy ei undeb, fe ddywedodd bod yr Ysgrifennydd Cartref wedi rhoi’r bai arno ef er mwyn “cyfleustra gwleidyddol” ac mae’n dwyn achos am “achosi diswyddo”.

Roedd yn gwadu ei fod wedi mynd y tu hwnt i gyfarwyddyd gweinidogion ac yn protestio na chafodd gyfle i roi ei ochr yntau.

Dadl yn y Senedd

Fe ymatebodd yr Asiantaeth Ffiiau trwy honni bod Brodie Clark wedi cyfadde’ mynd ymhellach nag y dylai ac fe fydd Theresa May yn amddiffyn ei rhan hithau yn yr helynt mewn dadl yn Nhŷ’r Cyffredin y prynhawn yma.

Fe fydd Brodie Clark hefyd yn ymddangos o flaen Pwyllgor Dethol ac mae wedi dweud eisoes nad oedd wedi peryglu diogelwch y wladwriaeth trwy lacio’r rheolau ynglŷn a goruchwylio mewnfudwyr.

Mae dau uchel swyddog arall yn yr Asiantaeth wedi cael eu hatal o’u gwaith ar hyn o bryd.