Theresa May
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May yn wynebu cwestiynau gan Aelodau Seneddol bore ma yn dilyn y ffrae am lacio’r rheolaeth ar fewnfudwyr i’r wlad mewn porthladdoedd yn y DU dros yr haf.

Ddoe, roedd Therersa May wedi cyfaddef iddi ganiatau i’r Asiantaeth Ffiniau lacio’r rheolau.

Ond mae’n ymddangos bod swyddogion yn yr asiantaeth wedi mynd gam ymhellach gan roi’r gorau i’r broses o wirio pasborts a hynny heb gainatad gweinidogol, meddai Theresa May mewn datganiad.

O ganlyniad fe fydd yn amhosib darogan faint o derfysgwyr honedig, troseddwyr a mewnfudwyr anghyfreithlon a ddaeth i wledydd Prydain yn y cyfnod yma.

Mae tri o staff yr asiantaeth gan gynnwys y pennaeth Brodie Clark, wedi cael eu gwahardd o’u swyddi ac fe fydd y rhai sy’n gyfrifol yn cael eu “cosbi i saicrhau nad ydy swyddogion yn cymryd y fath risg gyda diogelwch ffiniau yn y dyfodol,” meddai Theresa May.

Mae’r Blaid Lafur wedi ei chyhuddo o roi caniatad i’r polisi ac fe fydd pwysau ychwanegol arni i ateb cwestiynau pan fydd yn ymddangos gerbron y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref heddiw.