Mi allai’r DU orfod cyfrannu £40bn o bunnau at gronfa’r Banc Rhyngwladol (IMF) er mwyn achub economi’r byd yn ôl Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander.

Wrth gael ei holi ar raglen Andrew Marr ar y BBC dywedodd Mr Alexander y buasai’r swm yma yn gyfraniad i ddwy gronfa ac nid yn gyfraniad uniongyrchol o arian parod. Roedd yn hytrach yn warant i dalu mewn amgylchiadau arbennig.

Mae David Cameron eisoes wedi dweud ei fod yn fwriad gan y DU i roi rhagor i’r IMF ond na ddylid defnyddio’r arian i adfer argyfwng parth yr Ewro.

Mae’r Blaid Lafur hefyd wedi dweud na ddylai’r IMF ganiatau i’r Banc Canolog Ewropeaidd osogi ei gyfrifoldebau.

Oherwydd trefn cwota cyfrannu i’r IMF gallai’r llywodraeth allu cyfrannu hyd at £40bn heb unrhyw drafodaeth na phleidlais yn Nhy’r Cyffredin.

Dywedodd Danny Alexander y dylid rhoi’r posibilrwydd o gyfrannu mewn cyd-destun.

“Mae’n werth nodi nad oes yr un llywodraeth wedi colli arian ar ôl cyfrannu adnoddau i’r IMF,” meddai.