Ed Milliband
Mae’r protestwyr sy’n gwersylla y tu allan i Eglwys Gadeiriol St Paul yn Llundain yn adlewrychu’r pryderon sydd yna ymhlith pobl gyffredin ym Mhrydain yn ôl arweinydd y Blaid Lafur, Ed Milliband.

Mewn erthygl yn yr Observer, dywedodd bod y gwrthdystwyr yn ymateb i’r rhwystredigaeth gyffredinol sydd wedi codi am y gagendor rhwng gwerthoedd pobl a’r ffordd y mae’r wlad yn cael ei rhedeg.

Dywedodd ei fod yn cydnabod bod gan y protestwyr “restr hir o gynnigion gwahanol ac yn aml anymarferol” ac nad yw pawb yn cytuno efo’u gofynion na’u dulliau.”

“Dwi’n benderfynol bod gwleidyddiaeth prif ffrwd, a’r Blaid Lafur yn benodol, yn siarad efo’r argyfwng yma ac yn ymateb i’r sialens” meddai.

Ychwanegodd nad yw “busnes fel arfer yn opsiwn” ac mai “ymddygiad cynhyrchiol, cyfrifol sydd er llês busnes a’r helyw o bobl” yw’r ffordd ymlaen.

Mewn erthygl arall yn y Sunday Telegraph, dywed cyn gadeirydd Banc Lazards, Ken Costa, bod y diwydiant cyllid wedi anghofio bod angen gwneud daioni yn ogystal a gwneud pres.

Mae Mr Costa yn Gristion amlwg ac yn yr erthygl mae hefyd yn dweud nad creu’r elw mwyaf i gyfranddalwyr ddylai fod yr unig bren mesur o pa mor dda mae cwmni yn cael ei redeg.

Dywedodd hefyd mai’r farchnad economaidd yw’r drefn mwyaf llwyddianus i wella safon byw a bod yna ofyniad moesol i greu cyfoeth.