Clirio'r M5 ger Taunton

Ofnir bod par priod o Gasnewydd ymhlith y rhai fu farw wedi’r ddamwain ar yr M5  nos Wener.

Bu’r gynulleidfa yn Eglwys St Marc yn y ddinas yn gweddio y bore yma dros Anthony a Pamela Adams oedd yn addolwyr cyson yno ac mae cynghorydd lleol wedi cadarnhau bod yna bryder eu bod yn rhan o’r ddamwain.

Yn ôl papur yr Independent on Sunday roedd y ddau ar eu ffordd adref ar ôl bod yn gweld eu merch Tonia White sy’n byw yn Taunton. Dywedodd hi wrth ohebydd y papur bod y teulu yn tu hwnt o bryderus amdanyn nhw gan eu bod yn debygol o fod yn y fan a’r lle pan fu 34 o gerbydau mewn gwrthdrawiad a’i gilydd.

“Rydyn ni wedi bod yn ceisio cael gafael arnyn nhw drwy’r nos. ‘Does yr un aelod arall o’r teulu wedi gallu cysylltu efo nhw chwaith,” medddai wrth y papur.

Dyw’r heddlu ddim wedi cadarnhau enwau yr un o’r rhai laddwyd na’r rhai gafodd eu hanafu yn y ddamwain ar draffordd yr M5 yng Ngwlad yr Haf nos Wener ond mae’r heddlu wedi cyhoeddi nad oedd rhagor o gyrff yng ngweddillion y ceir a’r loriau.

Cadarnhaodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Anthony Bangham o Heddlu Avon a Gwlad yr Haf bod gweddillion yr oll o’r 34 cerbyd wedi cael eu symud o’r safle dros nos ac na ddaethpwyd o hyd i’r un corff arall. Ychwanegodd mai 7 o bobl felly laddwyd yn y trychineb.

“Rydym yn gweithio’n galed i adnabod y rhai laddwyd ac fe fydd swyddogion cyswllt yn cael eu penodi ar gyfer y teuluoedd sydd wedi colli rhywun yn y ddamwain. Fe fydd y cyrff yn cael eu hadnabod yn ffurfiol yn ystod y dyddiau nesaf,” meddai.

Mae Asiantaeth y Priffyrdd eisoes wedi cyhoeddi na fydd y draffordd ar agor o gwbl heddiw ac o bosib ar gau tan bore yfory (Llun).

Yr ymchwiliad ar y gweill

Digwyddodd y ddamwain rhwng 34 o gerbydau tua hanner awr wedi wyth nos Wener ger cyffordd 25 ac yn agos i Glwb Rygbi Taunton ble roedd yna arddangosfa tân gwyllt.

Roedd y tywydd yn arw iawn ar y pryd gyda niwl trwchus a glaw trwm ac mae rhai yn amau bod y mwg o’r arddangosfa wedi gwneud drwg yn waeth. Mae ysgrifennydd y clwb wedi dweud eu bod yn cynorthwyo’r heddlu gyda’u hymchwiliadau.

Cadarnhaodd y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Anthony Bangham hefyd eu bod am “edrych yn fanwl” ar effaith yr oll o’r digwyddiadau tân gwyllt yn yr ardal.

“Roedd yna nifer o ffactorau ar waith,” meddai. “Roedd hi’n dywyll, roedd y tywydd yn arbennig o wael, roedd yna orchudd o niwl dros y draffordd ac roedd gwlybaniaeth ar wyneb y ffordd hefyd yn ffactor.”

Pelen o dân

Bu’r Prif Gwnstabl Cynorthwyol hefyd yn disgrifio’r hyn welodd aelodau’r gwasanaethau brys wrth gyrraedd y ddamwain. Roedd yr olygfa yn “erchyll” meddai ac yn “sialens fawr, fawr” i’r criwiau.”

“Roedd ffyrnigrwydd y tân – roedd o fel pelen o dân – yn ei gwneud hi’n anodd iawn i bobl fynd yn agos. Fe wnaeth pawb eu gorau”, meddai.

Cafodd 17 oedd wedi eu hanafu yn ddifrifol eu trin yn Ysbyty Musgrove Park yn Taunton a 25 arall yn cael triniaeth yn Ysbyty Dosbarth Yeovil. Cafodd 9 driniaeth yn y fan a’r lle. Mae 23 o’r rhai gludwyd i Ysbyty Yeovil bellach wedi cael mynd adref.