Brodie Clark
Mae’r Swyddfa Gartref wedi gwahardd Pennaeth Llu Ffiniau y DU, Brodie Clark a dau arall o’u gwaith yn dilyn honniadau fod staff wedi cael cyfarwyddyd i ostwng nifer yr archwiliadau o drwyddedau teithio pobl o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.

Roedd y Swyddfa Gartref wedi cyhoeddi y gellid gwneud hyn o safbwynt trigolion gwledydd yr Undeb Ewropeaidd ym mis Gorffennaf.

Mae Mr Clark hefyd yn aelod o fwrdd Asiantaeth Ffiniau y DU, ac un o uwch-swyddogion yr asiantaeth, sef Cyfarwyddwr Gweithrediadau Maes Awyr Heathrow yw un o’r ddau arall sydd wedi eu gwahardd.

Fe fydd yr Asiantaeth Ffiniau yn cynnal ymchwiliad i’r honniadau i weld os oes yna oblygiadau o safbwynt diogelwch.

Dywedodd Keith Vaz AS sy’n cadeirio y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref fod yr honniadau yn “anhygoel”.

“Ddiwrnod yn unig wedi i ni gyhoeddi ein hadroddiad sy’n dangos bod yr Asiantaeth Ffiniau yn parhau i fethu dyma ni’n clywed y newyddion syfrdanol yma. Fe fyddwn yn holi’r Ysgrifennydd Cartref pan fydd yn ymddangos gerbron y pwyllogr dydd Mawrth ac os na fydd ei hatebion yn ein bodloni yna dwi’n siwr y byddwn eisiau cynnal ein hymchwiliad ein hunain. Mae heddlu’r ffiniau i fod i gadw pobl allan, nid gadael pobl i mewn,” meddai.