Streic darlithwyr yng Nghaerdydd
Mae’n ymddangos y bydd streic gan filiynau o weithwyr sector cyhoeddus dros newid i’w pensiynau yn symud gam yn nes heddiw pan fydd canlyniad pleidlais gan yr undeb fwyaf yn cael ei gyhoeddi.

Fe fydd undeb Unsain, sy’n cynrychioli miloedd o weithwyr, o gasglwyr sbwriel i weithwyr cymdeithasol, yn datgelu canlyniad pleidlais ymhlith ei haelodau sydd wedi cael eu hannog i gynnal streic 24 awr ar 30 Tachwedd.

Roedd yr undeb wedi lansio ymgyrch fawr i annog eu haelodau i bleidleisio o blaid cynnal streic a dywed swyddogion eu bod yn disgwyl cael cefnogaeth i’r streic.

Mae’r undebau yn bwrw mlaen gyda’u cynlluniau i gynnal streic er gwaetha cynnig newydd gan y Llywodraeth ynglyn a’u pensiynau, ond dywed arweinwyr yr undebau er eu bod yn croesawu’r cynnig newydd, dyw cynlluniau’r Llywodraeth ddim yn mynd yn ddigon pell.