Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r Fonesig Vera Lynn, sydd wedi marw yn 103 oed.

Dywedodd ei theulu mewn datganiad eu bod nhw “wedi tristau yn ofnadwy” i gyhoeddi marwolaeth y gantores, a oedd yn byw yn Ditchling, Dwyrain Sussex.

Mae hi’n cael ei chofio’n bennaf am ganu The White Cliffs Of Dover, We’ll Meet Again, There’ll Always Be An England, I’ll Be Seeing You, Wishing a If Only I Had Wings er mwyn codi calonnau pobl yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn ddiweddarach cafodd sioe deledu ei hun a bu’n teithio led led y byd.

Fe fu’n gefnogwr brwd o gyn-filwyr trwy gydol ei bywyd.

Cafodd ei geni yn East Ham, yn nwyrain Llundain ar Fawrth 20, 1917.

Bu’n perfformio i filwyr yn ystod y rhyfel, gan deithio i wledydd fel yr Aifft, India a Byrma.

Ym mis Mai eleni, y Fonesig Vera Lynn oedd yr artist hynaf i gael albym yn y 40 uchaf yn y Deyrnas Unedig. Roedd ei halbym, detholiad o’i chaneuon gorau, wedi cyrraedd rhif 30 yn y siartiau yn dilyn y dathliadau i gofio 75 mlynedd ers Diwrnod VE ar Fai 8.

“Codi calon ein gwlad”

Mae sawl un wedi talu teyrnged i’r Fonesig Vera Lynn.

Yn eu plith roedd y Prif Weinidog Boris Johnson a ddywedodd bod ei “llais hudolus wedi swyno a chodi calon ein gwlad yn rhai o’n dyddiau tywyllaf.”

“Bydd ei llais yn parhau i godi calon cenhedloedd i ddod,” ychwanegodd.

Dywedodd y gantores o Gastell-nedd Katherine Jenkins: “Alla’i ddim ffeindio’r geiriau i ddisgrifio faint roeddwn i’n edmygu’r ddynes fendigedig hon.”

Mae Syr Cliff Richard wedi disgrifio’r Fonesig Vera Lynn fel “gwir eicon” wrth iddo gofio perfformio gyda hi ym Mhalas Buckingham i nodi 50 mlynedd ers Diwrnod VE yn 1995.

“Fe wnaethon ni gerdded i’r llwyfan drwy dorf o bobol oedd wedi goroesi’r rhyfel, ac roedden nhw’n ymestyn i gyffwrdd Vera a chael gwen ganddi.”

Dywedodd ei ffrind, y Fonesig Esther Rantzen: “Roedd ganddi urddas naturiol ond doedd hi byth yn rhy fawreddog. Roedd hi’n berson rhyfeddol.”