Gellid fod wedi achub mwy o fywydau pe bai Llywodraeth Prydain wedi cyflwyno gwarchae’r coronafeirws yn gynt, yn ôl gwyddonydd sy’n eu cynghori nhw.

Mae’r Athro John Edmunds yn aelod o SAGE, Grŵp Ymgynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y llywodraeth.

Ond mae’n cydnabod y byddai wedi bod yn “anodd”.

“Dylen ni fod wedi mynd i warchae’n gynt,” meddai wrth raglen Andrew Marr ar y BBC.

“Dw i’n credu y byddai wedi bod yn anodd gwneud, dw i’n credu bod y data roedden ni’n ymdrin ag e ddechrau Mawrth a’n hymwybyddiaeth sefyllfaol ni’n eithaf gwael.

“Ac felly dw i’n credu y byddai wedi bod yn anodd bwrw iddi ar yr adeg honno, ond dw i’n difaru na wnaethon ni.

“Dw i’n difaru na wnaethon ni fynd i warchae’n gynt.

“Dw i’n credu bod hynny wedi costio llawer iawn o fywydau, yn anffodus.”

‘Ffordd bell i fynd’

Mae’n dweud bod y feirws ymhell o fod ar ben, gan rybuddio bod “ffordd bell i fynd”.

“Os gwnawn ni ymlacio, fe fydd yr epidemig hwn yn dychwelyd yn gyflym iawn,” meddai.

Daw ei sylwadau wrth i Jim McMahon, llefarydd trafnidiaeth yr wrthblaid, gwestiynu pam fod rhaid aros tan Fehefin 15 cyn y bydd gwisgo mygydau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn orfodol yn Lloegr.

Ac mae’n dweud ei fod yn teimlo’n “rhwystredig” fod rhaid i aelodau seneddol ddychwelyd i San Steffan yn hytrach na chael trafod a phleidleisio o bell.

‘Ennill y frwydr’

Yn y cyfamser, mae Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd San Steffan, yn dweud bod y Deyrnas Unedig yn “ennill y frwydr” yn erbyn y coronafeirws.

Mae hyn yn golygu bod modd llacio’r cyfyngiadau yn Lloegr, meddai.

Daw ei sylwadau ar ddiwedd wythnos pan ddywedodd Boris Johnson ei fod yn “falch” o record y Deyrnas Unedig wrth frwydro yn erbyn y feirws.