Mae cyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant lletygarwch yn galw ar y Llywodraeth i haneru’r pellter o 2 fetr yn y rheoliadau ymbelláu cymdeithasol.

Yn ôl Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain (BBPA) ac UK Hospitality, fe fydd llawer o dafarndai a thai bwyta’n mynd i’r wal os bydd y rheol bresennol yn dal mewn grym, gan ei bod yn cyfyngu’n ormodol ar niferoedd cwsmeriaid.

“Mewn llawer o dafarndai, fe fydd sicrhau pellter o ddwy fetr yn amhosib, gan eu cadw ar gau am amser llawer hirach,” meddai Emma McClarkin, prif weithredwr BBPA.

“Byddai gweithredu cyngor gan Sefydliad Iechyd y Byd i ddefnyddio un metr ar gyfer ymbelláu cymdeithasol o fis Gorffennaf yn galluogi llawer mwy o dafarndai i ailagor a gwasanaethu eu cymunedau eto.”

Meddai prif weithredwr UK Hospitality, Kate Nicholls, ar raglen BBC Radio 4 y bore yma:

“Ar bellter o 2 ddwy fetr rydych chi’n derbyn 30% o’ch refeniw arferol, ar un metr mae’n codi i 70% – felly mae’n wahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant i lawer o’r busnesau hynny.”

Yn ôl y BBPA, gallai tri chwarter y 47,000 o dafarndai ym Mhrydain ailagor gyda chyfyngiad o un metr, o gymharu â thua thraean yn unig o dan y rheol dwy fetr.