Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd y BBC wedi cytuno i dderbyn llai o gyflog nag y mae’n ei gael yn ei swydd bresennol gyda’r Gorfforaeth.

Tim Davies yw Prif Weithredwr BBC Studios, sef adran fasnachol y Gorfforaeth, ac mae yn derbyn £600,000 y flwyddyn.

Ond pan fydd yn dod yn Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC ym mis Medi, £525,000 fydd ei gyflog.

Mae cyflogau holl uwch reolwyr y BBC wedi eu rhewi ar hyn o bryd.

Fe gyhoeddodd Tony Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol presennol y BBC, ei fod yn rhoi’r gorau iddi nôl ym mis Ionawr, wedi saith mlynedd yn arwain y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig.

Cyn ymuno gyda’r BBC yn 2005, bu Tim Davies yn gweithio i gwmnïau PepsiCo Europe a Procter and Gamble.