Mae’n “destun gofid” bod stori’r milwr Lee Rigby yn cael ei ddefnyddio i “danio casineb” ar-lein.

Dyna mae mam y milwr, a gafodd ei lofruddio, wedi ei ddweud ar ôl i luniau ohono – a thestun amdano – gael eu rhannu ar y we.

Cafodd ei mab ei ladd gan eithafwyr Islamaidd y tu allan i’w farics ym mis Mai 2013.

Mae pobol ar-lein wedi bod yn tynnu sylw at ei farwolaeth wrth leisio eu gwrthwynebiad at y protestiadau ‘Black Lives Matter’, yn ôl ei fam Lyn Rigby.

Ac mae hithau bellach wedi rhannu ei phryderon.

“Poenus”

“Gwnaeth Lee wasanaethu ei wlad â balchder er mwyn amddiffyn hawliau a rhyddid pob aelod o’r genedl amrywiol yma,” meddai Lyn Rigby.

“Mae’n boenus gweld ei ddelwedd yn cael ei ddefnyddio i danio casineb – yn enwedig yn erbyn y rheiny sydd yn manteisio ar eu rhyddid i brotestio yn erbyn y mater yma.

“Mae’r sylwadau yma yn hynod dorcalonnus ac yn destun gofid i ni, ac maen nhw’n gwbl groes i’r pethau yr oedd Lee yn sefyll trostyn nhw.”