Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simot Hart wedi galw penderfyniad BA i gael gwared o swyddi yn “annealladwy.”

“Mae hyn yn anfoesol mewn amser lle mae pobol yn poeni am eu swyddi,” meddai Aelod Seneddol Llafur Islwyn, Chris Evans.

“A wnewch chi ymrwymo i, yn gyntaf, gondemnio’r ymddygiad hwn a siarad gyda phrif weithredwr BA ynghylch y swyddi sydd mewn perygl mewn etholaethau megis fy un i a fy nghydweithwyr ar draws Cymru?”

“Yn wir, mae gen i esiamplau yn y fy etholaeth fy hun,” atebodd Simon Hart.

“Mae pobol wedi dod ataf yn hollol wedi synnu â’r sefyllfa maen nhw ynddo. Rwyf yn sicr yn gwarantu fy mod am drafod hyn gyda BA.”

“Mae’n benderfyniad annealladwy, yn enwedig o ystyried yr amgylchiadau rydym ynddynt.”