Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cael eu hannog i “lenwi’r bylchau” er mwyn gwarchod pobol sy’n hunangyflogedig neu’n derbyn tâl isel.

Dywed Aelod Seneddol Llafur Merthyr Tudful a Rhymni, Gerald Jones: “Mae systemau profi ac olrhain yn weithredol ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig a bydd hynny yn golygu fod miloedd o bobol yn gorfod hunanynysu er mwyn atal y feirws rhag lledaenu ymhellach.

“Ond i nifer o bobol sy’n hunangyflogedig neu’n derbyn tâl isel sydd ddim yn gymwys i gefnogaeth megis tâl salwch, mae hyn yn golygu na fyddan nhw’n derbyn arian i gynnal eu teuluoedd.

“Felly alla i ofyn, a fydd y Llywodraeth yn llenwi’r bylchau yma mewn tâl salwch i sicrhau nad yw neb yn wynebu’r dewis amhosib o orfod hunan ynysu neu roi bwyd ar y bwrdd?”

Ymatebodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart drwy ddweud: “Pan fydd pobol yn llithro drwy’r rhwyd, lle mae anghysondeb, wrth gwrs byddwn yn gweithio i weld a oes modd cywiro’r rheini.”