Fydd cynadleddau dyddiol Downing Street ddim yn cael eu cynnal ar benwythnosau o hyn ymlaen gan fod ffigurau gwylio yn “sylweddol is”, yn ôl llefarydd ar ran Rhif 10.

Mae sesiynau briffio wedi’u cynnal bob diwrnod o’r wythnos ers Mawrth 16, ond am ddau achlysur, ond mae Llywodraeth Prydain wedi penderfynu eu dileu ar ddydd Sadwrn a dydd Sul o’r wythnos yma ymlaen.

Bydd Boris Johnson, sydd wedi ymddangos mewn 12 cynhadledd i’r wasg hyd yn hyn, yn arwain o leiaf un sesiwn briffio yr wythnos o hyn ymlaen, ynghyd ag arbenigwyr gwyddonol a meddygol.

“Bydd eraill yn cael eu harwain gan Ysgrifenyddion Gwladol, ynghyd ag arbenigwyr gwyddonol a meddygol lle bo’n berthnasol,” meddai llefarydd.

Pan ofynnwyd iddo pam fod y newid yn cael ei wneud, dywedodd y llefarydd fod hyn “ddim ond oherwydd bod y niferoedd sy’n gwylio ar benwythnosau yn tueddu i fod yn sylweddol is.”

Mae Rhif 10 yn mynnu bod y Llywodraeth wedi ymrwymo’n llwyr i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobol.