Mae yna fwriad i gynnal dwy ras Grand Prix yn Silverstone eleni.

Daw’r newyddion wrth i’r awdurdodau gyhoeddi calendr o wyth ras ar gyfer tymor 2020, a gafodd ei ohirio yn sgil y coronafeirws.

 

Y gobaith yw y bydd y ddwy ras Brydeinig yn cael eu cynnal ar Awst 2 a 9.

 

Bydd dwy ras yn Awstria, ar Orffennaf 5 a 12, ac un yn Hwngar ar Orffennaf 19.

 

Bydd Catalwnia yn cynnal Grand Prix Sbaen ar Awst 16, tra bydd Gwlad Belg (Awst 30) a’r Eidal (Medi 6) hefyd yn cynnal ras yr un.

Mae disgwyl iddyn nhw gael eu cynnal heb dorf, gyda’r lleiafswm posib o weithwyr ar y traciau.

Fe fu pryderon na fyddai Silverstone yn gallu cynnal Grand Prix yn sgil cynlluniau Llywodraeth Prydain i gyflwyno cwarantîn ar gyfer pobol sy’n teithio o dramor o Fehefin 8.

Ond mae disgwyl i’r byd chwaraeon gael ei eithrio.