Roedd Emily Maitlis yn ôl wrth y llyw ar raglen Newsnight y BBC neithiwr (nos Lun, Mehefin 1), a hynny am y tro cyntaf ers ei sylwadau dadleuol am Dominic Cummings.
Daeth ymchwiliad i’r casgliad iddi dorri canllawiau’r Gorfforaeth ar fod yn ddi-duedd pan wnaeth hi ddarn i’r camera yn beirniadu prif ymgynghorydd Boris Johnson, prif weinidog Prydain.
Dywedodd hi fod Dominic Cummings “wedi torri’r rheolau” wrth deithio o Lundain i Durham a bod “y wlad yn gallu gweld hynny ac wedi cael siom na all y Llywodraeth weld hynny”.
Yn ôl y BBC, doedd y darn “ddim yn cyrraedd ein safonau ar fod yn ddi-duedd”.
Yn ôl ar yr awyr
Ers yr helynt, dydy Emily Maitlis ddim wedi bod yn cyflwyno’r rhaglen, gan ddweud iddi ofyn am noson i ffwrdd o’r gwaith.
Ond mae’n dweud iddi gael ei syfrdanu gan y gefnogaeth gafodd hi gan y cyhoedd.
Er ei bod hi’n ôl ar yr awyr, wnaeth Emily Maitlis ddim crybwyll yr helynt yn ystod y rhaglen neithiwr.
Roedd y bennod yn canolbwyntio ar brotestiadau’r Unol Daleithiau yn dilyn marwolaeth dyn croenddu dan law’r heddlu.
Bu farw George Floyd wrth i blismon ym Minneapolis bwyso ar ei wddf â’i benglin am rai munudau.
Mae gan Emily Maitlis enw da am ei dull cadarn o holi mewn cyfweliadau.
Y llynedd, cafodd hi ei chanmol am ei chyfweliad â Dug Caerefrog yn dilyn honiadau am ei gyfeillgarwch â Jeffrey Epstein, wnaeth ladd ei hun yn y ddalfa wrth wynebu cyhuddiadau’n ymwneud â rhyw â merch ifanc.