Mae Dominic Raab yn dweud nad yw’n gwybod ble’r oedd Dominic Cummings yn ystod y cyfnod pan oedd e’n dirprwyo ar gyfer Boris Johnson.

Fe gamodd Ysgrifennydd Tramor San Steffan i esgidiau Prif Weinidog Prydain pan oedd e’n derbyn triniaeth yn yr ysbyty am y coronafeirws.

Y cyfan roedd e’n ei wybod am ei brif ymgynghorydd oedd ei fod e “allan ohoni” oherwydd y coronafeirws, ac mae’n dweud nad oedd e’n ymwybodol o’i symudiadau yn ystod y cyfnod hwnnw.

Fe fu Dominic Cummings dan y lach dros yr wythnosau diwethaf ar ôl iddi ddod i’r amlwg iddo deithio o Lundain i Durham, yn groes i gyfyngiadau’r coronafeirws, gan gynnig cyfres o esboniadau sydd wedi cael eu hamau.

Mae Dominic Raab yn dweud nad oedd e’n ymwybodol o’r helynt tan bod y stori’n ymddangos yn y cyfryngau.

“Ro’n i ond yn gwybod ei fod e allan ohoni oherwydd iddo gael ei daro’n wael â’r coronafeirws ac o ystyried y sefyllfa roedden ni ynddi gyda’r prif weinidog wedi’i daro’n wael, ac yn ddifrifol wael yn ddiweddarach fel y daeth yn amlwg, ro’n i ond yn canolbwyntio ar y Llywodraeth a thîm Cabinet gwych a sicrhau ein bod ni’n parhau i ganolbwyntio’n ddiflino ar ymdrin â’r feirws,” meddai wrth raglen Sophy Ridge on Sunday.

“Ro’n i’n gwybod fod Dom yn sâl a’i fod e allan ohoni, ac yn amlwg ro’n i eisiau iddo fe a’r prif weinidog wella’n fuan, ond do’n i ddim yn canolbwyntio ar ei symudiadau o gwbl, a do’n i ddim yn ymwybodol ohonyn nhw.”

Dominic Cummings

Yn ôl Heddlu Durham, mae’n bosib fod taith Dominic Cummings yn erbyn y rheolau.

Mae’r pwysau arno i gamu o’r neilltu’n cynyddu, gyda Tom Tugendhat, cadeirydd pwyllgor materion tramor San Steffan, yn ychwanegu ei enw at restr faith o aelodau seneddol sy’n galw ar iddo fynd.

Mae wedi gwrthod amddiffyn Llywodraeth Prydain, ac mae’n dweud ei fod e wedi lleisio barn wrth y bobol mae’n eu cynrychioli.

Mater i Boris Johnson yw dyfodol Dominic Cummings yn ei swydd, meddai.