Mae Llywodraeth Prydain yn cael eu hannog i wneud tro pedol allai weld holl ysgolion cynradd Lloegr yn agor eto cyn yr haf.

Yn ôl Llywodraeth Prydain, mae pump o feini prawf wedi’u bodloni er mwyn dychwelyd disgyblion Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 6 i’r ysgol o yfory (dydd Llun, Mehefin 1).

Bydd dosbarthiadau’n cael eu cyfyngu i 15 o ddisgyblion ar y tro, gyda desgiau’n cael eu cadw ar wahân.

Y gobaith yw y bydd modd i holl blant cynradd Lloegr ddychwelyd i’r ysgol am bedair wythnos cyn gwyliau’r haf ym mis Gorffennaf.

Ond mae Llywodraeth Prydain yn dal i fynnu mai gwyddoniaeth fydd yn llywio’u penderfyniadau.

Mae pwysau arnyn nhw o du undebau i beidio ag agor ysgolion eto.

Mae Emma Knights, prif weithredwr Cymdeithas Genedlaethol Llywodraethwyr, wedi mynegu pryder am y cynlluniau, ac wedi anfon llythyr at Gavin Williamson, Ysgrifennydd Addysg San Steffan, yn dweud hynny.

Mae rhai cynghorau yn dweud na fydd eu hysgolion yn agor eto, er gwaethaf cyngor Llywodraeth Prydain, ac mae’r Press Association yn adrodd bod mwy na dwsin o awdurdodau lleol yn cynghori ysgolion i beidio ag agor eu drysau.