Mae aelod seneddol Ceidwadol Totnes ymddiheuro ar ôl anfon ymateb i e-bost etholwr yn cynnwys y cyfarwyddyd “mewnosodwch os bu profedigaeth”.
Cafodd camgymeriad “twp” Anthony Mangnall ei gynnwys mewn ymateb i neges dderbyniodd e am helynt Dominic Cummings a’i daith rhwng Llundain a Durham.
“Mewnosodwch os bu profedigaeth: Gaf fi ychwanegu fy nghydymdeimlad ar ôl i chi golli aelod o’ch teulu’n ddiweddar,” meddai’r neges.
“Mae’r sefyllfa bresennol wedi gwneud y gallu i alaru colli anwyliaid yn fwy anodd.
“Anfonaf fy nymuniadau gorau i chi a’ch teulu.”
Yn ôl Anthony Mangnall, cafodd y llinellau eu cynnwys mewn un ymateb i gannoedd o negeseuon mae e wedi’u derbyn dros y dyddiau diwethaf.
Eglurhad
“Mewn ymgais i ymateb i’r e-byst hynny, ysgrifennais i, yn fy ngeiriau fy hun, fy meddyliau am y sefyllfa,” meddai wrth geisio cynnig eglurhad.
“Roedd yr ymateb hwnnw’n cynnwys ‘llinellau i’w mewnosod’ oedd yn fy ngalluogi i ymateb i faterion a phryderon penodol gafodd eu codi.
“Fe wnes i, yn dwp, anfon un o’r e-byst hynny heb fod wedi dileu’r llinellau ychwanegol.
“Mae hyn wedi achosi cryn sarhad ac mae’n flin eithriadol gen i.”
‘Rhannu pryderon’
Yn ôl Anthony Mangnall, mae’n rhannu pryderon y bobol hynny syd wedi bod yn cwyno am helynt Dominic Cummings.
Mae’n dweud na fyddai wedi gwneud yr hyn wnaeth prif ymgynghorydd Boris Johnson, ond dydy e ddim wedi galw am ei ymddiswyddiad.
“Dydy’r ffaith fod pobol yn grac ac yn anfodlon ag ymddygiad Mr Cummings ddim yn syndod o gwbl,” meddai mewn datganiad ar Facebook.
“Dydy treulio amser yn amddiffyn ymgynghorydd ddim yn ddefnydd da o amser, yn enwedig o ystyried y pryderon niferus am ddyfodol pobol a’u bywoliaeth.”