Mae Dirprwy Faer Lerpwl wedi camu o’r neilltu tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i honiadau ei bod hi wedi torri rheolau gwarchae’r coronafeirws.
Mae fideo wedi dod i’r fei yn dangos o leiaf 12 o bobol yng ngardd Lynnie Hinnigan a nifer o gadeiriau wedi’u gosod allan.
Ond mae hi’n mynnu na chafodd parti ei gynnal, a bod ei merch wedi trefnu bod gwesteion yn mynd ag anrhegion iddi gan ei bod hi’n cael ei phen-blwydd yn 50 oed.
“Do’n i ddim yn ymwybodol ei fod yn digwydd, ac roedd yn syrpreis go iawn,” meddai wrth y Liverpool Echo.
“Mae pawb yn cael y gwarchae’n anodd, peidio â gweld teulu a ffrindiau, ond dylai pawb barhau i ddilyn y rheolau, aros yn effro, aros yn ddiogel ac ymbellháu’n gymdeithasol, sef yn union yr hyn ddywedais i wrth fy merch, a dyna’r rheswm pam na wnes i fyth adael y tŷ.
“Mae’n flin gen i os yw hyn wedi brifo unrhyw un, gan nad dyna fy mwriad i na bwriad fy merch.
“Mae nifer o deuluoedd eraill yn ein dinas wedi ei chael hi’n anodd drwy gydol y cyfnod hwn.
“Mae angen i ni ddilyn y canllawiau hyd nes y gallwn ni gyfarfod eto wyneb yn wyneb.”