Mae heddlu’n ymchwilio i farwolaeth dyn ar safle castell yn ne ddwyrain Lloegr.

Cafodd swyddogion eu galw i Gastell Lullington yng Nghaint ar brynhawn dydd Iau, ac yn ddiweddarach bu farw dyn yn y fan a’r lle. Nid yw wedi ei enwi.

Yn ôl llefarydd ar ran Heddlu Kent: “roedd adroddiadau bod cerrig yn cael eu taflu”.

Ac yn ôl ffynhonnell leol, roedd “rhywbeth fel hyn yn bownd o ddigwydd”.

Mae’r gymuned leol eisoes wedi codi pryderon am weithgarwch gwrthgymdeithasol – ynghyd â diffyg presenoldeb heddlu – yn yr ardal.