Mae’n ymddangos y bydd Uwchgynghrair Lloegr yn ailgychwyn ar 17 Mehefin.

Daeth swyddogion gweithredol o’r 20 clwb ynghyd am gyfarfod cyfranddalwyr ddydd Iau (28 Mai), ac adroddwyd bod cytundeb ar gyfer y rowndiau o gemau sy’n weddill i’w chwarae.

Disgwylir i’r gynghrair ailddechrau gyda dwy gêm wedi’u haildrefnu – Aston Villa v Sheffield United a Manchester City v Arsenal –  cyn rownd lawn o gemau ar benwythnos 20 a 21 Mehefin.

Roedd y gêm ddiwethaf yn yr Uwchgynghrair ar 9 Mawrth, cyn i’r gystadleuaeth gael ei hatal oherwydd pandemig y coronafeirws ar Fawrth 13.