Mae disgwyl i filoedd o weithwyr easyJet golli eu swyddi fel rhan o gynlluniau’r cwmni hedfan i ostwng nifer y gweithlu hyd at 30%.

Dywedodd easyJet eu bod yn gwneud y toriadau yn sgil y pandemig coronafeirws.

Mae’n dilyn cyhoeddiadau tebyg gan British Airways a Ryanair.

Mae gan easyJet tua 15,000 o weithwyr llawn-amser, gan olygu bod hyd at 4,500 o swyddi yn y fantol.

Dywedodd Johan Lundgren, prif weithredwr y cwmni: “Ry’n ni’n sylweddoli bod hyn yn gyfnod anodd ac ry’n ni’n gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn a fydd yn effeithio ein staff ond ry’n ni eisiau trio diogelu cymaint o swyddi ag y gallwn ni yn y tymor hir.”

Er bod disgwyl i’r cwmni ail-ddechrau hedfan ar Fehefin 15 maen nhw’n disgwyl i’r galw am deithiau gynyddu’n araf gan ddychwelyd i’r un lefelau a 2019 ymhen tair blynedd.