Dywedodd Boris Johnson na ddysgodd y Deyrnas Unedig wersi o’r gorffennol o ran datblygu digon o gapasiti ar gyfer profi ac olrhain.

Dywedodd y Prif Weinidog fod hynny’n “realiti creulon” wrth ymateb i Aelodau Seneddol ym Mhwyllgor Cyswllt Tŷ’r Cyffredin ddydd Mercher (27 Mai).

Wrth ateb cwestiwn gan y cyn-Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Hunt, sydd wedi bod yn feirniadol o ymdrechion y llywodraeth, dywedodd: “Roedd gennym [weithrdiadau profi ac olrhain] ond, yn anffodus, nid oedd gennym y capasiti [o fewn Public Health England].

“A dwi’n meddwl mai’r realiti creulon yw nad oedd y wlad hon wedi dysgu gwersi gan Sars na Mers ac nad oedd gennym ni weithred brofi’n barod i fynd ar y raddfa yr oedd ei hangen arnom.”

Ailagor

Dywedodd Boris Johnson fod y Llywodraeth yn “ceisio mynd cyn gynted ag y gallwn” i ailagor y diwydiant lletygarwch.

Dywedodd wrth Aelodau Seneddol yn y Pwyllgor: “Mae’n anodd iawn cyflwyno mesurau lletygarwch mewn ffordd sy’n caniatáu ymbellhau cymdeithasol ond rwy’n llawer mwy optimistaidd am hynny nag yr oeddwn i.

“Efallai y byddwn ni’n gallu gwneud pethau’n gyflymach nag yr oeddwn i wedi meddwl o’r blaen.”

Dominic Cummings

Gwadodd Boris Johnson fod ei negeseuon lockdown mor aneglur mai dim ond Dominic Cummings oedd yn eu deall.

Gofynnwyd iddo gan Meg Hillier o’r Blaid Lafur a oedd ei negeseuon “mor aneglur” mai dim ond ei brif ymgynghorydd oedd yn gwneud y peth iawn tra bod pawb arall wedi camddeall.

Atebodd y Prif Weinidog: “Na, Meg, rwy’n meddwl bod y neges […] yn glir iawn a bod pobl oedd â’r firws, gan gynnwys fy ymgynghorydd, wedi hunanynysu am 14 diwrnod ac aros gartref.”

Gwrthododd y Prif Weinidog ddweud pa rannau o’r honiadau yn erbyn Dominic Cummings sy’n anwir yn ei farn ef.

Dan bwysau gan Darren Jones o’r Blaid Lafur, dywedodd Johnson wrth y Pwyllgor: “Does gen i ddim byd i’w ychwanegu ar yr hyn rwyf wedi’i ddweud o’r blaen.”

Pecyn adfer yr economi

Awgrymodd Boris Johnson y byddai’n cyflwyno pecyn adfer economaidd gerbron y Senedd cyn egwyl yr haf ar 21 Gorffennaf.

Pan ofynnwyd iddo ddod â phecyn adfer economaidd llawn yn ôl i’r Senedd erbyn egwyl yr haf, dywedodd wrth Bwyllgor Cyswllt Tŷ’r cyffredin: “Byddwn, fel ateb byr i’ch cwestiwn, byddwn yn dod â phecyn adfer economaidd llawn yn ôl i chi ac i bawb arall yn y Senedd.”