Mae cyflwynydd radio’r BBC wedi cael ei chlywed yn galw Dominic Cummings yn “gymaint o d***” yn ystod darllediad newyddion byw.

Roedd Nuala McKeever o BBC Radio Ulster wedi gadael ei meicroffôn ar agor yn ystod bwletin prynhawn, heb sylweddoli bod modd i’r gwrandawyr ei chlywed.

Roedd hi’n siarad ar draws y cyflwynydd newyddion Damien Edgar am funud gyfan cyn iddi ddefnyddio’r sarhad.

Clywodd pobol hi’n dweud: “Roeddwn i’n meddwl ei fod o’n gymaint o d***, mi wnes i ysgrifennu ei enw lawr fel Richard Cummings. Slip Freudian ta be?”

Mae Nuala McKeever, digrifwraig a chyflwynydd radio achlysurol, bellach wedi ymddiheuro gan ddweud ei bod hi’n “difaru” ei sylwadau.

“Doedd fy sylwadau ddim i fod i gael eu darlledu,” meddai.

“Rydym yn difaru beth sydd wedi digwydd ac achosi pryder.”