Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson a’i brif ymgynghorydd Dominic Cummings yn cael eu beirniadu’n hallt yn y papurau newydd y bore yma.

Yn ogystal â’r Daily Mirror a’r Guardian, mae papurau asgell dde fel y Daily Mail a’r Daily Telegraph hefyd yn collfarnu’r ddau.

“Ar ba blaned maen nhw?” yw pennawd tudalen flaen y Daily Mail wrth ymosod ar y “Svengali” am dorri’r rheolau ac ar Boris Johnson am ei amddiffyniad “haerllug” ohono.

“Mae ymddygiad y ddau wedi rhoi leisans i bob person hunanol i fod yn gwbl ddi-hid o iechyd cyhoeddus,” meddai’r papur. “Dyw’r naill na’r llall ddim wedi dangos gronyn o edifeirwch. Ydyn nhw’n meddwl ein bod ni’n ffyliaid?”

Mae’r Mirror yn galw Dominic Cummins yn “dwyllwr” a Boris Johnson yn “llwfrgi” a oedd â gormod o ofn gweithredu yn ei erbyn.

“Mae Cummings yn gwybod lle mae’r cyrff wedi eu claddu,” meddai’r colofnydd Kevin Maguire yn y Mirror.

“Ci yn cael ei ysgwyd gan ei gynffon yw Boris Johnson.”

Yn ôl y Guardian, mae’r Prif Weinidog wedi mentro ei holl hygrededd ar achub gyrfa Dominic Cummings.

“Mae safbwynt y Llywodraeth bellach yn gliriach: cyn belled ag y bydd Mr Cummings yn aros yn ei swydd, mae’n dweud bod y gwarchae ar gyfer y bobl fach. Tra bydd yn trin y cyhoedd gyda dirmyg gall ddisgwyl i’r dirmyg hwnnw gael ei ddychwelyd.”

Mae erthygl olygyddol y Telegraph hefyd yn feirniadol wrth ymosod ar safonau deublyg y Llywodraeth ac yn awgrymu y dylid ystyried diswyddo Dominic Cummings.

“Mae mwy i hyn na honiadau o ragrith mewn uchelfannau,” meddai’r papur. “Mae Mr Cummings wedi dod yn ffigur ymrannol sy’n tynnu sylw oddi wrth y Llywodraeth pan fo undod mewn amcanion yn gwbl hanfodol.

“Yn y pen draw, rhaid i’r Prif Weinidog benderfynu a yw parhad presenoldeb Mr Cummings yn mawrygu neu’n lleihau awdurdod ei Lywodraeth ac ymddiriedaeth y cyhoedd ynddo i arwain y wlad trwy ei hargyfwng gwaethaf ers 70 mlynedd.”

Yr unig bapur i gefnogi Boris Johnson a Dominic Cummings yw’r Times, tra bod y Sun a’r Daily Express wedi canolbwyntio ar ffeithiau’r stori yn hytrach na mynegi barn.