Mae disgwyl y bydd amddiffyniad Boris Johnson o’i brif ymgynghorydd Dominic Cummings yn taflu cysgod ar drafodaethau yn y Cabinet heddiw ynghylch cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau coronafeirws.

Mewn cynhadledd i’r wasg neithiwr, mynnodd Boris Johnson fod Dominic Cummings wedi ymddwyn “yn gyfrifol ac yn gyfreithlon a gydag unplygrwydd” wrth deithio 260 o filltiroedd o Lundain i Swydd Durham ym mis Mawrth.

Roedd hyn er gwaethaf y ffaith fod hyn yn gwbl groes i reoliadau’r gwarchae, heb sôn am adroddiadau pellach iddo wneud ail daith yno ym mis Ebrill.

Mae Aelodau Seneddol Torïaidd ymysg gwleidyddion o bob plaid sydd wedi collfarnu’r Prif Wenidog.

“Dw i’n siomedig iawn,” meddai Syr Roger Gale wrth asiantaeth newyddion PA. “Dw i’n meddwl fod cyfle i gladdu’r mater yma ond mae gen i ofn bellach fod y stori am barhau a pharhau.”

Yr un oedd barn yr AS Torïaidd Simon Hoare, a oedd eisoes wedi galw ar i Dominic Cummins fynd.

“Fe wnaeth perfformiad y Prif Weinidog godi mwy o gwestiynau nag atebion,” meddai. “Mae unrhyw obaith ar oedd ar ôl y gallai hyn ddod i ben yn y 24 nesaf wedi’i golli.”

Dywedodd arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, fod Boris Johnson wedi dangos methiant i ddangos arweiniad, gan ddweud bod ei benderfyniad i beidio â chymryd dim camau yn erbyn Dominic Cummings yn “sarhau aberthau a wnaed gan bobl Prydain”.

Dywedodd Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, y dylai Dominic Cummins naill ai ymddiswyddo neu gael y sac, gan nodi ei bod hi wedi gorfod derbyn ymddiswyddiad prif ymgynghorydd meddygol yr Alban y mis diwethaf am dorri rheolau’r gwarchae. “Dylai’r Prif Weinidog a Cummings wneud yr un fath,” meddai.